Croeso i Banel Dinasyddion Castell-nedd Port Talbot.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi dewis Gwasanaethau Ymchwil Barn (ORS), sef sefydliad ymchwil annibynnol, i reoli'r panel ar ei ran.
Drwy ymuno â'r panel byddwch chi, fel preswylydd yng Nghastell-nedd a Phort Talbot, yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y gwaith ymchwil sy'n berthnasol i'r cyngor. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu mynegi'ch barn am bolisïau, blaenoriaethau a/neu wasanaethau'r cyngor. Bydd yr adborth yn ein helpu i ddeall safbwynt preswylwyr a bydd yn cael ei ddefnyddio i helpu i wneud penderfyniadau.
Nid oes angen i chi fod yn gyfarwydd â gwasanaethau'r cyngor er mwyn dod yn aelod o'r panel. Rydym yn chwilio am amrywiaeth o farn gan amrywiaeth o wahanol bobl. Efallai y bydd gofyn i chi lenwi holiaduron ar-lein, cymryd rhan mewn trafodaethau anffurfiol, gweithdai, cyfweliadau ar y ffôn a mathau eraill o ymgynghoriad.
Os ydych am fod yn rhan o'r panel, bydd gofyn i chi ddarparu manylion personol. Bydd hyn yn ein caniatáu i gysylltu â chi a sicrhau bod gennym grŵp amrywiol o bobl yn cymryd rhan yn yr ymchwil (e.e. pobl o wahanol oedrannau, rhyw ac ethnigrwydd). Ni fydd unrhyw wybodaeth a ddarperir yn cael ei throsglwyddo i drydydd partïon heb eich caniatâd a bydd yr wybodaeth rydych yn ei darparu'n cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig. Am ragor o wybodaeth, cymerwch gip ar ein polisi preifatrwydd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag ORS:
Ffôn: 01792 535324 neu e-bostiwch: panels@ors.org.uk
Os hoffech fod yn aelod a chymryd rhan mewn ymchwil yn y dyfodol, gallwch gofrestru drwy glicio ar 'nesaf' isod.