Hoffech chi ddweud eich dweud am y gwasanaethau sydd ar gael i blant a phobl ifanc?
Hoffem eich gwahodd i gymryd rhan mewn cyfweliad byr i rannu eich barn ar yr hyn sy'n gweithio'n dda am y gwasanaethau yr ydych yn eu derbyn, yr hyn nad yw'n gweithio cystal, a sut y gellid gwella'r gwasanaethau. Gellir cynnal y cyfweliad dros y ffôn, trwy fideo-gynadledda, neu wyneb yn wyneb yn dibynnu ar yr hyn rydych chi'n gyfforddus ag ef.
I ddiolch i chi am eich amser yn cymryd rhan, byddwn yn cynnig taleb anrheg gwerth £40 i chi, y gellir ei wario mewn amrywiaeth o leoedd.
Os oes gennych ddiddordeb i’n helpu i wella gwasanaethau i blant a’u teuluoedd, cliciwch ar ‘Cychwyn’ isod ac atebwch y tri chwestiwn adborth cychwynnol. Os hoffech chi gymryd rhan mewn cyfweliad hefyd, rhowch eich manylion cyswllt yn yr adran ganlynol. Byddwn yn cysylltu i drafod y camau nesaf. Os oes mwy o bobl â diddordeb nag y gallwn ni eu cyfweld, bydd y tîm ymchwil yn adolygu ac yn cysylltu â'r rhai sydd wedi mynegi diddordeb i sicrhau bod amrywiaeth o deuluoedd yn cael eu cynrychioli.
Dim ond Opinion Research Services (ORS), sy’n cynnal y cyfweliadau ar ran Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro, fydd yn cadw’r wybodaeth a roddwch. Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei phrosesu gan ORS i gydymffurfio â’r rheoliadau diogelu data diweddaraf a dim ond i lywio’r prosiect hwn y caiff ei defnyddio. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a allai ddatgelu pwy ydych yn cael ei dinistrio erbyn mis Hydref 2024. Am ragor o wybodaeth, gweler hysbysiad preifatrwydd ORS: https://www.ors.org.uk/hysbysiad-preifatrwydd/.