Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gwerthusiad o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a ddaeth i effaith ar 1 Rhagfyr 2022. Y nod yw deall gweithrediad ac effaith y newidiadau deddfwriaethol a gyflwynir gan y Ddeddf ac asesu eu llwyddiant neu’r gwrthwyneb.
Mae’r holiadur hwn yn un rhan o’r gwerthusiad a bydd yn gofyn am ddata, a’ch barn am, a’ch profiadau hyd yn hyn o’r prif newidiadau deddfwriaethol a ddaeth i effaith ar 1 Rhagfyr 2022. Anfonwyd holiaduron blaenorol at landlordiaid ac asiantau rheoli yng Ngwanwyn 2023, yn fuan ar ôl i’r newidiadau ddod i rym, gan ddarparu canfyddiadau sylfaenol, ac yng Ngwanwyn 2024, flwyddyn ar ôl gweithredu’r Ddeddf, i barhau i asesu’r broses o’i gwreiddio. Mae’r trydydd, a’r olaf, holiadur hwn yn canolbwyntio ar effaith gyffredinol y Ddeddf ddwy flynedd ar ôl ei gweithredu.
Mae'r holiadur hwn yn cael ei gynnal ar ran Llywodraeth Cymru gan Opinion Research Services (ORS), sy'n gwmni ymchwil annibynnol.
Bydd yr holiadur yn cymryd 10-15 munud i’w gwblhau ac mae ar agor i’w gwblhau tan 22 Mehefin 2025
. Bydd eich adborth yn helpu Llywodraeth Cymru i asesu effaith y Ddeddf ar landlordiaid ac asiantau rheoli, ac ar y sector rhentu yn gyffredinol yng Nghymru. Bydd yr wybodaeth a roddwch yn cael ei phrosesu a’i chadw ar weinydd diogel gan ORS. Dim ond nifer cyfyngedig o staff ORS sy’n gweithio ar y prosiect fydd â mynediad at unrhyw ddata personol a ddarperir, a bydd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion ymchwil yn unig. Llywodraeth Cymru yw’r rheolwr data ar gyfer yr arolwg; fodd bynnag, bydd ORS yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir cyn ei rannu â Llywodraeth Cymru. Ni fyddwch chi nac eich sefydliad yn cael eich adnabod gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r holiadur hwn yn cael ei gynnal yn unol â’r holl ddeddfwriaeth Diogelu Data berthnasol ac â Chod Ymarfer Cymdeithas Ymchwil i’r Farchnad. Bydd ORS yn cadw data personol yn ystod y cyfnod ymchwil, ond byddant yn dileu unrhyw wybodaeth sy’n eich adnabod chi/eich sefydliad erbyn tri mis ar ôl cwblhau’r prosiect fan bellaf. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt. Am ragor o wybodaeth, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.
Gallwch chi adael yr holiadur a dychwelyd ato unrhyw bryd trwy glicio ar yr eicon ‘cadw ar gyfer nes ymlaen’ ar waelod pob tudalen. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol y gallai unrhyw ymatebion rhannol gael eu defnyddio yn y dadansoddiad hyd yn oed os na fyddwch yn cwblhau'r arolwg a'i gyflwyno.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr holiadur, cysylltwch â Catherine Wall yn ORS ar Catherine.Wall@ors.org.uk neu 01792 828355. Os hoffech siarad â rhywun yn Llywodraeth Cymru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â diogelu data neu GDPR, cysylltwch â changen Ymchwil ar Dai Llywodraeth Cymru ar YTimYmchwilTai@llyw.cymru.
Gallwch hefyd wirio bod ORS yn ymarfer ymchwil dilys drwy gysylltu â’r Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad ar 0800 975 9596.
Os ydych yn ansicr o unrhyw rai o'r ffigurau, rhowch amcangyfrif.